Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2022
Amser:
11.45 -
16.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13123
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Adam Edwards, Conffederasiwn GIG Cymru Kim Jenkins, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Eleri Thomas, Heddlu Gwent Amanda Turner, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Amanda Blakeman, Heddlu Gwent Pippa Cotterill, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Alison Davies, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru Darren Trollope, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Dr Dave Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Emma Wools, Heddlu De Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac ni chafwyd unrhyw eilyddion.
O dan Reol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Sarah Murphy AS ddatganiad o fuddiant mewn perthynas ag eitemau 2, 4 a 6 ar yr agenda.
2 Profiadau o’r system cyfiawnder troseddol: pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu - panel un
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Therapyddion
Lleferydd ac Iaith
Kim Jenkins, Therapydd Lleferydd ac Iaith Tra Arbenigol ac Arweinydd Clinigol
ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Dr Dave Williams, Seiciatrydd Ymgynghorol y Glasoed a Phlant
Adam Edwards, Uwch Ymarferydd Nyrsio a Chynghorydd Iechyd Meddwl,
Arweinydd Fforensig y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
3 Papurau i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
3.1 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
3.2 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch dyled a’r pandemig.
3.3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y glasbrint cyfiawnder ieuenctid.
3.4 Llythyr oddi wrth RNIB ynghylch addasiadau rhesymol i sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau gofal iechyd i bobl anabl
3.5 Gohebiaeth â'r Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn Erbyn Menywod ynghylch rhaglenni cyflawnwyr
3.6 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch strategaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
4 Profiadau o’r system cyfiawnder troseddol: pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu - panel dau
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Darren Trollope, Pennaeth Cynllunio a Chyngor, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
Alison Davies, Prif Swyddog, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
Amanda Turner, Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, Heddlu Gogledd Cymru
Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu De Cymru
Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Gwent
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
6 Profiadau o’r system cyfiawnder troseddol: pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu: trafod y dystiolaeth
Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a chytunwyd i ofyn am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiynau.